Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Mehefin 2018
Amser:
08.50 -
12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4803
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol , Llywodraeth Cymru Steve Vincent, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joe Champion (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet.
2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:
· Nodyn ar yr achosion busnes a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer yr elfen Refeniw gwerth £16 miliwn o'r cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod a sut y mae'r rhain yn cymharu â'r symiau a ddyrannwyd.
· Nodyn ar y dadansoddiad o'r dyraniad o elfen Gyfalaf y cyllid.
· Nodyn ar delerau ac amodau elfennau Refeniw a Chyfalaf y cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod.
· Ffigurau ar faint o ddosbarthiadau babanod sydd â mwy na 25 o ddisgyblion ar hyn o bryd a faint a fydd ar ôl cyfnod y cyllid ymrwymedig.
· Nodyn ar faint o ddisgyblion fydd yn elwa ar fod mewn dosbarth llai o ganlyniad i'r cyllid.
· I ddiweddaru'r Pwyllgor ar y dogfennau diweddaraf sydd ar gael ar gynnwys y cwricwlwm wrth iddo ddod i'r amlwg.
· I ddarparu copïau o'r asesiadau effaith a wnaed ynglŷn â phenderfyniadau i newid y ffordd y caiff cefnogaeth i blant Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei chyllido.
· Nodyn ar sefyllfa'r gwasanaethau addysg teithwyr ledled Cymru.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ragor o wybodaeth am rai materion penodol.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.
7.1 Nid oedd digon o amser i drafod yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau i'w rhoi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf.